Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
9 Mawrth 2022
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12656
------
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru
Dechreuodd yr eitem am 14.24
Gofynnwyd cwestiynau 1-8 a 11. Cafodd cwestiynau 1 a 3 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Tynnwyd cwestiwn 10 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
3 Cwestiynau Amserol
Dechreuodd yr eitem am 15.08
[Atebwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol]
Rhun ap Iorwerth: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar benderfyniad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i ddynodi gwasanaethau fasgwlaidd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fel gwasanaeth sydd angen gwelliant sylweddol?
4 Datganiadau 90 eiliad
Dechreuodd yr eitem am 15.16
Gwnaeth Elin Jones ddatganiad yn talu teyrnged i Dai Jones, Llanilar.
Gwnaeth Paul Davies ddatganiad ar Wythnos Genedlaethol Gyrfaoedd – hyrwyddo pwysigrwydd addysg yrfaoedd dda mewn ysgolion a cholegau.
Gwnaeth Luke Fletcher ddatganiad yn amlygu pwysigrwydd heulforgwn (Basking Sharks) a’r heriau sy’n eu hwynebu. (Fel hyrwyddwr rhywogaeth).
5 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Datganoli Plismona
Dechreuodd yr eitem am 15.21
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7925 Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Cynnig bod y Senedd:
Yn cefnogi datganoli plismona.
Cyd-gyflwynwyr
Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)
Cefnogwyr
Sarah Murphy (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
14 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig.
6 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Wcráin
Dechreuodd yr eitem am 16.09
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7945 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn gresynu at ymosodiad Ffederasiwn Rwsia ar Wcráin.
2. Yn mynegi undod â phobl Wcráin.
3. Yn cydnabod bod pobl Wcráin yn dioddef o ganlyniad i golli bywyd ac anafiadau, gan dalu'r pris am y rhyfel erchyll hwn.
4. Yn cydnabod hawliau NATO i amddiffyn ei aelodau ac yn cefnogi Llywodraeth Wcráin wrth iddi amddiffyn ei gwlad.
5. Yn croesawu'r camau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ddarparu cymorth dyngarol i'r rhai mewn angen a lloches ddiogel i'r rhai sy'n dianc rhag y gwrthdaro.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
14 |
0 |
40 |
54 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth y DU i weithredu ar frys i:
a) cyflwyno proses fisa gyflym i sicrhau dulliau syml, cyflym, diogel a chyfreithlon o gyrraedd noddfa yn y DU;
b) dileu'r gofyniad i Wcraniaid ddarparu tystiolaeth fiometrig cyn gadael Wcráin;
c) rhoi rhagor o fanylion am y cynlluniau adsefydlu a'r cyllid dilynol y bydd ei angen i gefnogi’r ymdrechion adsefydlu.
Cyd-gyflwynwyr:
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
54 |
0 |
0 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 Siân Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod bod y gwrthdaro hwn yn cynyddu'r risg o ryfel niwclear ac ofn rhyfel niwclear ymhlith pobl yng Nghymru a thu hwnt, ac felly'n galw ar bob gwladwriaeth, gan gynnwys y gwladwriaethau niwclear i lofnodi a chadarnhau Cytundeb y Cenhedloedd Unedig ar Wahardd Arfau Niwclear a ddaeth i rym ym mis Ionawr 2021, ac a fyddai'n atal bygythiad o'r fath yn y dyfodol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
20 |
17 |
17 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7945 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn gresynu at ymosodiad Ffederasiwn Rwsia ar Wcráin.
2. Yn mynegi undod â phobl Wcráin.
3. Yn cydnabod bod pobl Wcráin yn dioddef o ganlyniad i golli bywyd ac anafiadau, gan dalu'r pris am y rhyfel erchyll hwn.
4. Yn cydnabod hawliau NATO i amddiffyn ei aelodau ac yn cefnogi Llywodraeth Wcráin wrth iddi amddiffyn ei gwlad.
5. Yn croesawu'r camau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ddarparu cymorth dyngarol i'r rhai mewn angen a lloches ddiogel i'r rhai sy'n dianc rhag y gwrthdaro.
6. Yn galw ar Lywodraeth y DU i weithredu ar frys i:
a) cyflwyno proses fisa gyflym i sicrhau dulliau syml, cyflym, diogel a chyfreithlon o gyrraedd noddfa yn y DU;
b) dileu'r gofyniad i Wcraniaid ddarparu tystiolaeth fiometrig cyn gadael Wcráin;
c) rhoi rhagor o fanylion am y cynlluniau adsefydlu a'r cyllid dilynol y bydd ei angen i gefnogi’r ymdrechion adsefydlu.
7. Yn cydnabod bod y gwrthdaro hwn yn cynyddu'r risg o ryfel niwclear ac ofn rhyfel niwclear ymhlith pobl yng Nghymru a thu hwnt, ac felly'n galw ar bob gwladwriaeth, gan gynnwys y gwladwriaethau niwclear i lofnodi a chadarnhau Cytundeb y Cenhedloedd Unedig ar Wahardd Arfau Niwclear a ddaeth i rym ym mis Ionawr 2021, ac a fyddai'n atal bygythiad o'r fath yn y dyfodol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
15 |
13 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
7 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Tai
Dechreuodd yr eitem am 17.16
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7946 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod bod angen hyd at 12,000 o anheddau newydd y flwyddyn yng Nghymru.
2. Yn mynegi pryder difrifol bod nifer yr anheddau newydd a ddechreuwyd wedi gostwng 30 y cant i 4,314 yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a bod nifer y cartrefi a gwblhawyd wedi gostwng 23 y cant i 4,616.
3. Yn credu bod y methiant i adeiladu mwy o gartrefi yng Nghymru yn cael effaith andwyol ar argaeledd eiddo.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) hwyluso'r gwaith o adeiladu 12,000 o gartrefi y flwyddyn;
b) adfer yr hawl i brynu yng Nghymru, ailfuddsoddi enillion gwerthiant i fwy o dai cymdeithasol a diogelu cartrefi rhag cael eu gwerthu am 10 mlynedd;
c) gweithio gydag awdurdodau cynllunio i weld mwy o dir yn cael ei ddyrannu mewn cymunedau sy'n wynebu anawsterau fforddiadwyedd lleol, gan gynnwys sicrhau bod mwy o dir ar gael ar gyfer prosiectau hunanadeiladu;
d) rhoi'r gorau i'r cynlluniau ar gyfer cwmni adeiladu cenedlaethol a chefnogi twf y sector adeiladu cartrefi preifat.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
14 |
0 |
40 |
54 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn cydnabod yr heriau y mae’r sector tai yn eu hwynebu sy’n cael effaith andwyol ar y cyflenwad tai ledled Cymru.
2. Yn croesawu’r buddsoddiad ym maes tai gan Lywodraeth Cymru.
3. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu 20,000 o dai cymdeithasol carbon isel yn ystod tymor y Llywodraeth hon.
4. Yn nodi’r ymrwymiad i sefydlu Cwmni Adeiladu Cenedlaethol, Unnos, i gefnogi ein cynghorau a landlordiaid cymdeithasol i wella’r cyflenwad o dai cymdeithasol a fforddiadwy.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
14 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7946 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
1. Yn cydnabod yr heriau y mae’r sector tai yn eu hwynebu sy’n cael effaith andwyol ar y cyflenwad tai ledled Cymru.
2. Yn croesawu’r buddsoddiad ym maes tai gan Lywodraeth Cymru.
3. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu 20,000 o dai cymdeithasol carbon isel yn ystod tymor y Llywodraeth hon.
4. Yn nodi’r ymrwymiad i sefydlu Cwmni Adeiladu Cenedlaethol, Unnos, i gefnogi ein cynghorau a landlordiaid cymdeithasol i wella’r cyflenwad o dai cymdeithasol a fforddiadwy.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
14 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 18.16 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.
8 Cyfnod pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 18.21
9 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.27
NDM7944 Rhys ab Owen (Canol De Cymru)
Diogelu mannau cymunedol: adfer rheolaeth
Crynodeb o Bleidleisiau
Daeth y cyfarfod i ben am 18.48
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 15 Mawrth 2022